Cyllid GIG Cymru - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014'.
Yn ôl Mr Ramsay:
"Cyhoeddwyd Deddf Cyllid y GIG (Cymru) ar ôl i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol fynegi pryderon ynghylch ffocws ariannol byrdymor GIG Cymru.
"Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r Ddeddf i ysgogi gwell gwaith cynllunio yn y GIG a bod arwyddion o newid ar waith tuag at ystyriaethau mwy tymor hir.
"Fodd bynnag, mae hefyd yn amlwg yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol bod llawer mwy i'w wneud i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sydd wedi creu sefyllfa lle y mae pedwar o fyrddau iechyd mwyaf Cymru wedi methu â chadw at eu cyllidebau yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac felly wedi cael barn archwilio amodol gan yr Archwilydd Cyffredinol o ran cysondeb eu gwariant.
"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cymryd tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch y materion a godwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ddydd Llun 10 Gorffennaf."
Nodiadau i olygyddion
Mae'r adroddiad llawn, 'Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014', ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru .
I gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych am wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Cymraeg